26.3.09

Chwilio am raglenni a ffilmiau dogfen da

Dwi'n llawn ymwybodol mai materion gwleidyddol (a gwleidyddiaeth Gwynedd yn fwy na dim arall) sydd wedi teyrnasu ar y blog yma ers tro. Ond y bwriad gwreiddiol oedd y byddai'n le i mi drin a thrafod pethau amrywiol, nad oedd yn addas ar gyfer tudalennau Barn. Un o'r pethau eraill sydd wedi mynd a thipyn go lew o fy amser yn ddiweddar yw fy ngwaith yn y Brifysgol. Dwi'n darlithio ar y cyfryngau yno, ac yn ceisio addasu nifer o gyrsiau sydd wedi bod yn rhedeg o dan oruwchwyliaeth fy rhagflaenydd, Eifion Lloyd Jones.
Ar ol yr haf, fe fydda i'n dysgu cwrs o'r enw "Drama a Dogfen" sydd yn edrych ar ddramau teledu, rhaglenni dogfen, a ffilmiau dogfen. Bob wythnos, bydd y myfyrwyr yn gwylio rhaglen, rhaglenni, neu ffilm sydd yn taflu goleuni ar rhyw agwedd arbennig o'r maes, ac fe fydd gofyn iddyn nhw ddadansoddi'r "testun" hwnw, a chyflwyno ei dadansoddiad i weddill y grwp.
Ar y funud, dwi wrthi'n trio llunio rhestr o destunau addas - sydd yn esgus perffaith i dreulio amser prin yn gwylio'r teledu. Fe ges i wledd neithiwr, wrth wylio ffilm ddogfen wirioneddol wych ynglyn ac ymgyrch wleidyddol i ethol maer i ddinas Newark, New Jersey, nol yn 2002. Street Fight oedd enw'r ffilm, ac mae'n dilyn Cory Booker - dyn ifanc hynod o ddawnus a charismataidd - wrth iddo geisio trechu maer llwgr y ddinas, Sharpe James.
Ond i gwblhau'r cwrs, dwi angen dod o hyd i ddeunydd i lenwi tua 12 wythnos o ddangosiadau. Dwi'n bwriadu dangos mwy nac un rhaglen deledu ochr-yn-ochr, yn y gobaith y bydd modd i mi adlewyrchu sawl agwedd o'r un pwnc. Dwi'n gwybod bod un neu ddau o bobl yn darllen y blog yma sydd a diddordeb yn y maes, felly os oes gan unrhyw un awgrymiadau, mae croeso i chi adael sylw. Ond mae'r person cyntaf i awgrymu Michael Moore yn cael........ wel, nid gwobr, beth bynnag.

4 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig,
Dwn i ddim os yw rhain yn addas a'i peidio;
Dofen Clough ar ITV 1 neithiwr oedd yn wych.
Hefyd wnaethpwyd dogfen am Medi 11eg gan ddau frawd o Ffrainc...hefyd yn gysylltiedig a hynny dogfen ar CH4 "The Falling Man" dwi'n meddwl oedd ei enw?
Un arall Drama Ddogfen ar ITV dwi'n meddwl "Shipman" am y Dr Harold Shipman.
Mi ddaru mi "fwynhau" rhain yn fawr - fel dwi'n dweud efallai nad ydynt yn addas?
Neis cael trafod rhywbeth heblaw gwleidyddiaeth gyda ti.
Hwyl am y tro.

Hywel said...

Shwmai Dyfrig,
Wn i ddim a wnes di weld y rhaglen 'The Lost World of Communism' ar un ai BBC 3 neu BBC 4 wythnos ddwethaf. Roedd yn cyfweld ag unigolion waneth wneud rhaglen ddogfen am 'collectivisation' yn y Weriniaeth Tsiec o dan y Comiwnyddion, ac am y 'Prague Spring' (dwi'n meddwl!) yn 1968. Cafodd y ddau ffilm eu gwahardd gan y comiwnyddion a gorfodwyd y newyddiadurwyr i adael y wlad. Gobeithio bod hynny yn help.
Hywel

Anonymous said...

Ma'n shwr bo rhain yn amlwg ond... Grizzly Man - ffilm ddogfen Werner Herzog am boi aeth allan i fyw gyda eirth, cyn cael ei fwyta gen eirth. Fog of War, cyfweliad estynedig gyda Robert McNamara. Stwff Nick Broomfield? Kurt and Courntey yn eye-opener. Dal heb weld Biggie and Tupac - falle bydde hwna'n fwy diddorol i'r genhedlaeth ifancach.

Neu ai jest am rhaglenni teledu ti'n chwilio? Ti'n cofio'r gyfres BBC4 In Love With Terror am gang Baader-Meinhof? Eitha amserol, gyda'r ffilm Baader Meinhof Complex ag ati. Odd e'n ddiddorol, a'n wahanol.

Nwdls said...

Dark Days gan Marc Jacobs yw un o'm ffefrynnau.

Salesman a Gray Gardens gan y brodyr Maysles.

In Prison My Whole Life gan Marc Evans fod yn dda.

Capturing The Friedman's a Tarnation yn ddwy enghraifft dda iawn o ddefnydd fideo cartref a hunanogofiannol i wneud ffilm, y ddwy o berspectifau hollol wahanol wrth gwrs.

When We Were Kings yn ardderchog hefyd.

Os am drama/doc (wel, ffilm ffuglen sydd ar ffurf dogfen) mae Punishment Park yn wych ac yn dal yn berthnasol.

Lot o bethau difyr i'w streamio ar wefan National Film Board of Canada. dyma'u feature docs: http://www.nfb.ca/explore-by/title/?title_range=All&lang=en&genre=3&decade=&time_range=5

Yn arbennig o hwyl yw'r doc yno am tramps sy'n syrffio trolis siopa.