3.3.09

Trafferthion Cyngor Abertawe

Mae 'na dipyn wedi ei sgwenu ynglyn a phenderfyniad Cyngor Gwynedd i gau cartref henoed Bryn Llewelyn ar flogiau Blogmenai, Hen Rech Flin a'r dihafal Gwilym Euros Roberts dros y dyddiau dwytha. Dwi ddim am i'r drafodaeth rygnu yn ei blaen, gan fy mod yn credu fod llawer iawn o beth sydd wedi cael ei sgwenu yn creu darlun gwyrdroedig o'r penderfyniad i gau, a hynny am resymau gwleidyddol bwriadol.
Serch hynny, dwi am dynnu sylw at broblemau Cyngor Abertawe, sydd - yn ol y BBC - yn beryglus o agos at golli rheolaeth dros ei gwasanaethau cyhoeddus. Cyhoeddwyd adroddiad yn beirniadu'r Cyngor rhyw 18 mis yn ol, ac mae'r Cynulliad o'r farn bod Abertawe wedi methu a gwneud digon i ddatrys y problemau a nodwyd yn yr adroddiad hwnw. Ar hyn o bryd, mae Gwynedd yn yr union sefyllfa yr oedd Abertawe ynddi hi 18 mis yn ol. Rydym ni wedi cael ein beirniadu yn hallt gan asiantaeth o'r Cynulliad, a rydym ni wedi cael rhybudd bod angen gwella ein gwasanaethau cymdeithasol, neu golli rheolaeth ohonynt.
Fy ngobaith gwirioneddol i yw na fyddwn ni'n mynd i lawr yr un trywydd ac Abertawe. Ymhen 18 mis, rwy'n gobeithio bydd y Cynulliad yn gallu edrych ar ddarpariaeth Gwynedd, ac adrodd bod y sefyllfa wedi gwella yn sylweddol. Hon, efallai, yw'r her fwyaf sy'n ein wynebu ni fel Cyngor. Ond er mwyn cyrraedd y fan honno, mae angen i ni ymateb i'r feirniadaeth sydd wedi dod o Gaerdydd - beirniadaeth sydd wedi tynnu sylw penodol at anallu Cyngor Gwynedd i wneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd, megis cau cartrefi'r henoed. Petai'r Cyngor wedi pleidleisio yn erbyn cau Bryn Llewelyn wythnos dwytha, dwi'n credu yn gryf y byddai Gwynedd gam - a cham mawr - yn nes at golli rheolaeth o'i gwasanaethau cymdeithasol. A petai'r Cynulliad wedi cymeryd rheolaeth, mae'n bur debyg y byddai Bryn Llewelyn, a sawl cartref arall, yn cael ei gau gan weision sifil o Gaerdydd. Er gwaetha'r hyn y mae rhai yn ei gredu, roedd y penderfyniad i gau yn un anodd i ni gyd. Ond yn y pen draw, dyma'r unig ddewis ymarferol ar gyfer Gwynedd.

1 comment:

Anonymous said...

Hollol wir Dyfrig. Trueni nad ydi Gwilym Euros a Llais Gwynedd yn gallu deall hyn.

Mae penderfyniadau anodd yn rhan o lywodraethu. Llywodraeth lwfr fyddai'n cilio o wneud y penderfyniadau tymor hir gan eu bod yn ofni am bleidleisiau. Mae grym yn beth i'w barchu - wedi i blaid wleidyddol ei ennill, mae dyletswydd i lywodraethu'n dda, a peidio ac edrych am bleidleisiau gyda pob penderfyniad.