13.12.09

Cau ysgolion Bro Dysynni

Wedi cael fy ngwynt ataf, dwi'n barod i ddweud rhyw bwt ynglyn a'r hyn ddigwyddodd yng ngyfarfod Cyngor Gwynedd ddydd Iau dwytha. Gwnaed penderfyniad i gau 5 ysgol wledig ym Mro Dysynni, de Meirionnydd, gyda mwyafrif llethol y Cynghorwyr yn cefnogi. Wrth gwrs, roedd 'na wrthwynebiad lleol, ac oherwydd nad oedd y cynlluniau i gau yn cael eu cefnogi gan y gymuned leol, roedd Llais Gwynedd hefyd yn gwrthwynebu.
Serch hynny, dwi'n gwbl gyfforddus ein bod ni wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol. Pam? Dau reswm, yn y bon

1) Byddai cadw'r ysgolion ar agor wedi bod yn annheg. Roedd nifer fawr o lefydd gweigion yn yr ysgolion, sydd yn golygu bod cost y pen addysgu plant yn yr ysgolion hyn yn uwch nac y gallai fod. Mae'r Cyngor mewn cyfnod o argyfwng ariannol, lle mae pob ysgol yn wynebu toriadau - hyd yn oed y rhai sydd yn denu nifer fawr o ddisgyblion. Mae dyletswydd arnom ni i sicrhau bod pawb o blant y sir yn cael chwarae teg. Gan fod unrhyw arian sydd yn cael ei ennill o gau ysgol yn cael ei fwydo yn ol i mewn i'r system addysg, bydd holl blant Gwynedd yn elwa o gau ysgolion bychain Bro Dysynni.

2) Byddai cadw'r ysgolion ar agor wedi gwanhau addysg wledig yn y tymor hir. Does dim osgoi'r ffaith bod newidiadau demograffig yn golygu mae disgyn a wnaiff y niferoedd sydd yn mynychu ysgolion cefn gwlad. Byddai'r ysgolion, yn fwy na thebyg, yn cau o'u hunain dros y 5-10 mlynedd nesaf. Ond gan y byddai hyn yn digwydd ar hap, fyddai dim modd i Gyngor Gwynedd gynllunio darpariaeth newydd i gymeryd eu lle. Y canlyniad fyddai ysgolion yn cau fesul un, a'r plant yn y pen draw, yn llifio i lawr i gael eu haddysg yn y dref agosaf, Tywyn.
Drwy gau 4 ysgol fach sydd yn agos at eu gilydd, mae gan Gyngor Gwynedd yr adnoddau i godi un ysgol newydd i wasanaethu'r cymunedau yma. Bydd yr ysgol hon ac adnoddau newydd, mwy addas i gwricwlwm yr 21ain ganrif, a nifer uwch o athrawon, a fydd yn gallu cynnig ystod ehangach o brofiadau addysgol. Ond yn bwysicach byth, fe fydd yn fwy cost-effeithiol, sydd yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y gall hi oroesi i'r dyfodol. Drwy gymeryd y cam yma, mae Cyngor Gwynedd wedi creu sefyllfa lle gall trigolion ardal Abergynolwyn, Bryncrug, Llanegryn a Llwyngwril fod yn ffyddiog y bydd addysg wledig ar gael iddyn nhw am o leiaf cenhedlaeth arall.

No comments: