8.12.09

Mohammed Asghar, unwaith eto

Mae 'na ddau beth wedi codi wrth drafod penderfyniad Mohammed Ashgar i groesi'r llawr.

1) Beth ddigwyddith i'w staff?

Mae 'na lawer wedi cyfeirio at y ffaith fod Asghar wedi gwneud tro gwael gyda'i staff. Mae nhw'n cael eu cyflogi gan Asghar fel unigolyn, ond maent yn ffigyrrau amlwg o fewn Plaid Cymru. Yn bersonol, dwi'n gwybod be fyddwn i'n ei wneud taswn i'n eu hesgidiau hwy - dim byd. Yn sicr, fyddwn i ddim yn ymddiswyddo. Fe fyddwn i'n aros yn fy swydd, ac yn disgwyl i Asghar fy ni-swyddo. Ac yna'n mynd ag o i dribiwnlys. Pam y dylai anwadalrwydd gwleidyddol Asghar adael 3 teulu ar y clwt dros y 'Dolig?

2) Beth mae hyn yn ei ddweud am ddulliu Plaid Cymru o ddewis ymgeiswyr?

Yn bersonol, dwi ddim yn gweld bod fawr o'i le gyda'r modd y dewiswyd Asghar. Aelodau cyffredin o Blaid Cymu yn rhanbarth Dwyrain De Cymru oedd gyfrifol am ei roi yn ail ar y rhestr. Do, fe wnaethon nhw gangymeriad, ond dyna'r natur ddynol. Rydym ni gyd yn gwneud cangymeriadau.
Os edrychwn ni ar yr unigolion sydd wedi eu dewis i sefyll yn etholiadau San Steffan 2010, mae'n gyfuniad o'r gwych a'r gwachul. Mae 'na ymgeiswyr gwirioneddol gryf, megis Myfanwy Davies, John Dixon, Heledd Fychan neu Steffan Lewis, ac mae 'na ymgeiswyr gwannach, megis...........wel, efallai y byddai'n well i mi beidio ac agor fy mhig.
Yr hyn sydd yn gyffredin i bawb sy'n sefyll yn enw Plaid Cymru yw eu bod wedi eu dewis gan aelodau eu hetholaeth. Boed nhw'n ymgeiswyr cryf neu wan, mae ganddyn nhw gyswllt gwirioneddol gyda'r bobl y bydden nhw'n ei wasanaethu. Nid pobl wedi eu parasiwtio i mewn o'r tu allan yw ymgeiswyr Plaid Cymru, ond pobl sydd wedi gweithio yn galed i feithrin ffydd a hyder eu cyd-aelodau. Dwi'n gweld dim o'i le gyda'r modd anrhydeddus y mae Plaid Cymru wedi mynd ati i ddewis ymgeiswyr.

4 comments:

Hogyn o Rachub said...

Dwnim a wyt yn ymateb i'r ymateb a wnes ar dy neges olaf, ond rhag ofn gad i mi egluro. Dwi'n gwybod y drefn o ddewis ymgeiswyr, ond byddwn i'n dueddol o awgrymu i aelodau'r ardal ffendio'r "demtasiwn" o gael yr aelod ethnig cyntaf yn y cynulliad yn ormod - yn bwysicach nag ystyried safon y dyn ei hun.

O ystyried ei berfformiad yn y Cynulliad dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, anodd gen i gredu y byddai wedi cyfleu ei hun fel ymgeisydd cryf heb son am wleidydd da - yn bersonol dwi'n meddwl bod ei berfformiad yn y Bae wedi bod yn uffernol, ac nad ydyw'n gaffaeliaid i'r Ceidwadwyr nac yn golled i'r Blaid ac eithrio o ran niferoedd o ACau.

Gan ddweud hynny, o ystyried y farn y mae wedi'i chyfleu heddiw, anodd gen ei gredu ei fod wedi bod yn onest wrth ateb cwestiynau'r rhai a bleidleisiodd dros ei ymgeisyddiaeth.

Cai Larsen said...

Mae yna broblem fach Dyfrig. Os ei di i gyfarfodydd dewis ymgeiswyr yn y Gogledd Orllewin mae yna nifer fawr o bobl yn eu mynychu.

Dwi ddim yn siwr faint sy'n mynd i gyfarfodydd felly yn y De Ddwyrain, ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf nad yw'n llawer iawn o bobl.

Rwan mae'n bosibl cael pobl digon anghynrychioladol (o'r Blaid, ac yn wir o'r etholwyr yn gyffredinol) yn cael eu dewis o dan yr amgylchiadau hyn. Mae hefyd yn bosibl 'pacio' cyfarfod.

Dwi'n brysio i ddweud nad oes gen i unrhyw le i feddwl bod hyn wedi digwydd yn yr achos yma, nag mewn unrhyw achos arall. Ond byddai o leiaf gofyn cwestiwn neu ddau am eu hagwedd tuag at gyfansoddiad y Blaid yn helpu sicrhau bod o leiaf rhyw waelod cenedlaetholgar i ymgeisyddion.

Dyfrig said...

Blogmenai,
Wrth gwrs bod y drefn yn gweithio yn well mewn ardaloedd gyda aelodaeth sylweddol, ond dwi ddim yn mynd i fod yn rhy barod i feirniadu aelodau Dwyrain De Cymru. Dwi'n amau bod Mohammed Asghar wedi bod yn llai na gonest efo'i gyd-aelodau. Yn sicr, dwi ddim yn credu ei fod wedi sefyll i fyny a dweud "I'm a unionist, not a seperatist" ar unrhyw adeg.

Penderyn said...

Y drafferth yw gyfeillion gydag unrhyw broses ddewis dim ond ystod cymharol cyfyng o sgiliau sy'n cael ei brofi. Efallai fod hyn yn arbennig o wir am y modd traddodiadol iawn mae'r Blaid yn cynnal hystings.

Dau beth yn bennaf sy'n cael ei brofi - dawn areithio, a dawn cael cefnogwyr i gyfarfod. Yn achos Oscar, beth bynnag arall gall dyn dweud amdano, ac mae digonedd i ddweud coeliwch chi fi, mae ganddo'r dawn i siarad yn byrfyfyr o'r galon. Os mai dawn areithio yn unig sy' dan sylw - mi geith Oscar ac areithwyr di-nodiadau eraill da eu dewis.

Tybed ydy'r Blaid di ystyried y drefn gyda'r Ceidwadwyr ar gyfer seddi allweddol? Araith, cwestiynnau o'r llawr, ond wedyn 15 munud ar ffurf cyfweliad Newsnight gyda person annibynnol (fel arfer gohebydd). Yn y fath hynny o gwestiynnau byddai ymrwymiad a gwybodaeth (neu diffyg o ran hynny) unrhyw ymgeisydd yn dod i'r amlwg.