26.2.08

Ac yn waeth byth....

Ydw i wedi sillafu Robyn Lewis yn gywir?

4 comments:

Hogyn o Rachub said...

I fod yn fanwl gywir dw i'n meddwl mai Robyn Léwis ydi o :P

Dyfrig said...

Damia. Fydd 'na lythyr blin yn Y Cymro wsnos nesa.

Ifan Morgan Jones said...

Er diddordeb ma Rhodri Glyn Thomas yn ateb ei critics yn Golwg fory. A mae tudalen llythyra swmpus o bobol yn trafod y peth eto.

Yr eironi yw bod cyhoeddiad y llywodraeth wedi creu digon o golofna, erthygla a llythyra barn i gario papur dyddiol am yr wythnosa cyntaf. Efallai mai dyna'r bwriad erioed?

Er hynny oll, dim llythyr gan Robyn Llyn eto.

Martin said...

Wel, dwi hefyd yn un o'r bobl yma sydd hefo teimladau cryfion ynglŷn â'r busnas Papur Dyddiol yma. Hyn a ysgolion gwledig Gwynedd- y ddau beth yma wedi bywiogi colofn Lythyron Cymraeg yn lled ddiweddar. Angerdd. Diwylliant Cymraeg yn ffrwtian.
'Rydym wedi gweld dipyn go lew o egni diwylliannol Cymraeg ar y we yn ystod y dyddiau diwethaf yma. Efallai y bydd y canlynol yn swnio'n drahaus (o, dwi'n gwybod yn well pob tro math o beth), ond ysgrifenais yn Y Cymro ychydig yn ôl am bwysigrwydd blog swyddogol Y Byd. Faint o arweinwyr diwylliadol ddaru gyfrannu er mwyn hybu'r ymdeimlad o fomentwm? Llond llaw yn unig. Mae'n siwr gen i fod Rhod Glyn wedi ymweld a gwefan Y Byd sawl gwaith (gan gynnwys y blog). Mae'n siwr gen i ei fod wedi gweld pa mor farwaidd oedd o.
Ynglŷn a beio hwn a hon. Yn y pendraw, ni welwyd momentwm a heip digon cyffrous. Ni welwyd ymdrech GYMUNEDOL gref. Rhag EIN cywilydd?