8.2.08

Papur dyddiol - Barn Maes-e

Mae cyhoeddiad Rhodri Glyn Thomas ynglyn a'r grant i'r wasg Gymraeg wedi gwneud i mi anobeithio ynglyn a chenedlaetholdeb Plaid Cymru ar lefel Gymreig. Ond nid fi yw'r unig un - dyma chi ychydig o sylwadau oddi ar wefan Maes-e. Gobeithio bod y gweinidog treftadaeth yn sylweddoli sut mae llawer iawn o gefnogwyr traddodiadol ei blaid - y bobl sy'n ei gadw mewn gwaith - yn teimlo ynglyn a hyn.

"Ma Plaid Cymru mewn Llywodraeth. Mae llywodraethau'n torri addewidion.

Y tristwch mawr fan hyn yw bo ni'n byw mewn gwlad lle mae'n rhaid brwydro am bob ceiniog am ddatblygiadau i hybu'r iaith. O ran pwysigrwydd y fenter, darllen yw'r ffordd orau i ddysgu, safoni a normaleiddio iaith. Yn lle gimmicks fel brecwastau am ddim (pwy ffac sy ffili rhoi bach o chaff i blentyn cyn mynd a fe i'r ysgol) a laptops am ddim (as if) dyle arian deche gael ei roi i gynllun uchelgeisiol ond gwerth chweil."
- Ray Diota

"Wedi torri'r addewid hwn, bydd rhai ohonom yn cadw'n llygad ar addewid arall: mater o ddiddordeb mwy lleiafrifol mae'n wir, ond mater a fydd yn brawf, terfynol efallai, ar ddidwylledd Plaid Cymru: sef yr addewid i greu Coleg Cymraeg Ffederal. Ai rhywbeth tila tila fydd hi eto, gyda phres mwnci tuag at ei gynnal? Fe gawn ni weld ....

Mae'r hyn a ddigwyddodd yr wythnos hwn yn peri dechrau gofyn, a fydd yr anesmwythyd yng Ngwynedd yn tyfu'n anesmwythyd drwy'r ardaloedd a gynrychiolir yn awr gan y Blaid, ac yn arwain at ei herio yn etholiadau'r Cynulliad, 2011? Ni byddai cam o'r fath yn un i'w gymryd ar chwarae bach, ond mae bellach yn bosibilrwydd y gall rhai ohonom, dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, ein cael ein hunain yn meddwl yn ofalus a difrifol yn ei gylch."
- Obi Wan

"Plaid Cymru = Plaid Celwydd"
- Mihangel Macintosh

"Ar Dragon's Eye neithiwr (os fyswn i'n gwbod shwt i greu links mi fyswn i'n rhoi un yma, ond dydw i ddim!) roedd IWJ yn cyfiawnhau'r tor-addewid a wnaed ynghylch papur dyddiol. Mae'n droedig sut mae ganddo wyneb i wneud hynny - 14miliwn i un adeilad, 3 miliwn i ardd a cheiniogau i sefydlu papur Cymraeg a fyddai'n cyfrannu at warchod iaith, sydd cyn lleied o arian fel ei bod hi'n amhosib sefydlu un. Oes 'na gynllwyn yma i wneud yn siwr nad oes 'na bapur dyddiol Cymraeg yn cael ei sefydlu? (Mi fysa'r Blaid Lafur wrth ei bodd yn gweld y Gymraeg yn cael ei rhwymo unwaith eto.) Mae Plaid Cymru wedi troi ei chefn ar yr iaith o dan ddylanwad y Blaid Lafur, a 'dal awennau grym' (ha ha!) wedi mynd i'w phen. Mae ganddi andros o lot o waith codi o'r gwter ddiflas mae hi'n ymdrybaeddu ynddi."
- Lleucu Roberts

"Ie, cachgwn yw Plaid Cymru am beidio gwneud yn glir eu bod yn erbyn papur dyddiol. Os nad Y Byd, yna fydd ddim papur arall. Dyw £200k ddim yn ddigon i Trinity Mirror - 5 aelod newydd o staff efallai? Rhyw supplement Gymraeg eil-radd yng ngolwg pobl, fyddai'r gorau fydde nhw'n wneud."
- Twpsyn

"Y ffaith yw bod y difrod wedi'i wneud: bydd llawer o bobl, fel Hedd (a finnau) yn teimlo nad ydynt yn gallu dibynnu ar y Blaid i ddelifro a bod Llafur yn gwneud ffwliaid ohonom. Embras i fod ym Mlaid Cymru ac embaras perthyn i genedl a gododd capeli, llyfrgelloedd a phrifysgol gynt ond nad yw hi bellach yn gallu codi pris ty am bapur newydd? Gadewch i ni ddadlau am be' mae hyn yn dweud am realiti gwleidyddol a diwylliannol y Gymru sydd ohoni a sut mae mynd ati i newid hyn heb aros trwy'r amser fel plant am gymorth gan y wladwriaeth neu am i eraill newid pethau."
- Efrogwr

Dwi'n credu mai'r peth mwyaf teimladwy dwi wedi ei ddarllen ar y cyfan yw blog Hogyn o Rachub.

http://rachub.blogspot.com/2008/02/ysgaru-o-blaid-cymru.html

Mae o'n dweud na fydd yn adnewyddu ei aelodaeth o Blaid Cymru, oherwydd ei fod wedi cael llond bol ar agwedd y blaid tuag at y Gymraeg. I mi, mae ergyd sylwadau HoR yn llawer caletach nac ergyd geiriau trist Hywel Teifi Edwards ddydd mawrth. Mae Hywel Teifi yn gawr, yn un o ddynion mwyaf y Gymru gyfoes, ond mae hefyd yn ddyn sydd dros ei 70 oed. Fe fyddai'n hawdd i Blaid Cymru ddi-ystyru geiriau Hywel Teifi fel llais y genhedlaeth hyn, amherthnasol. Ond mae Hogyn o Rachub yn 22 oed, ac yn byw yn un o gadarnleoedd y Gymraeg - a'r blaid. Sut ddyfodol sydd 'na i Blaid Cymru os yw ei chefnogwyr naturiol wedi penderfynnu cefnu arni o fewn 4 blynedd o gyrraedd oed pleidleisio?

2 comments:

Unknown said...

Mae'r sylwadau yn absurd, dw i erioed wedi clywed. Mae Rhodri Glyn Thomas, Plaid Cymru, yn rhoi £200,000 y flwyddyn ychwanegol i'r iaith a mae pobl yn cwyno nad ydynt yn gwneud digon. Dyw Plaid Cymru ddim ar fai am ddifygion Y Byd.

Dychmygwch beth fyddai wedi digwydd petasai Plaid wedi rhoi £600,000 iddyn nhw a wedi gweld y fenter methu. Ar ddiwedd y dydd, Plaid Cymru sydd yn mynd i wario mwy nac erioed ar y wasg Cymraeg, ond mae rhai pobl dal yn anhapus gyda nhw. Mae hwnna yn dwp.

Dyfrig said...

Does gan cyhoeddiad dydd mawrth ddim oll i'w wneud a diffygion Y Byd. Doedd Plaid Cymru heb ymrwymo i gefnogi cais Dyddiol Cyf. Ond roedd Plaid Cymru wedi ymrwymo i gefnogi papur dyddiol Cymraeg. Mae modd gwneud yr ail heb wneud y cyntaf.
Torrwyd addewid gan Blaid Cymru, ac mae'n mynd i ddylanwadu ar ei pleidlais.