5.2.08

Marc Jones, newyddiadurwr?

Dwi newydd fod yn edrych ar raglen y Byd ar Bedwar yn trafod hynt a helynt Y Byd. Un o'r rhai oedd yn siarad oedd cyn-olygydd Golwg Marc Jones, ac roedd yn ddigon beirniadol o Gwmni Dyddiol Cyf, sydd yn gyfrifol am Y Byd. Roedd Marc yn cael ei ddisgrifio ar y rhaglen fel newyddiadurwr. Ond dwi'n credu fod Marc yn gweithio i Blaid Cymru fel swyddog y wasg erbyn hyn. O ystyried mai Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru, sydd wedi rhoi'r farwol i Y Byd, oedd hi'n briodol holi Marc? Onid oedd ei sylwadau yn ffordd o gefnogi penderfyniad ei fos, ac felly yn rhan o'i waith fel sbin doctor?

1 comment:

Rhys Llwyd said...

Classic Byd ar Bedwar, mae safon newyddiadura ITV Cymru yn wachael ac os yw hyn yn wir mae e'r diweddaraf mewn llinell anrhydeddus o mess-ups gan y tim dan sylw. Diolch am bwyntio hyn allan Dyfrig.