15.2.08

Vaughan Roderick

Yn ei flog heddiw, mae Vaughan Roderick yn ystyried cyfeiriad cyffredinol Plaid Cymru yng nghyd-destun tair ffrae, sef y cyhoeddiad ynglyn a'r papur dyddiol, diffyg cefnogaeth y llywodraeth i ariannu Coleg Ffederal, a pholisi Cyngor Gwynedd o gau rhai ysgolion gwledig.
Dwi'n credu ei bod hi'n biti bod y tri peth yma'n cael eu trafod ar y cyd, oherwydd mae dwy ddadl wahanol yn y fan hyn. Mae pob cyngor gwledig yng Nghymru yn wynebu gorfod cau ysgolion bychain, diolch i nifer o ffactorau allanol.Mae Cyngor Gwynedd wedi chwilio am ffordd o wynebu'r her genedlaethol hon, ond dyw nhw heb lwyddo i fodloni carfan fechan ond swnllyd o drigolion Pen Llyn. Dwi'n dadlau bod cynllun Cyngor Gwynedd yn un blaengar a theg, ac ei fod yn gwbl gydnaws ac egwyddorion cenedlaetholgar traddodiadol - wedi'r cyfan, onid oes Cymry Cymraeg yn mynychu ysgolion Caernarfon, Bethesda, Dolgellau ayyb yn ogystal a phentrefi bychain cefn gwlad?
Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd yn deillio o fod mewn gwasgfa gwirioneddol. Mae posib esbonio pam ei fod yn digwydd, hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno ag o. Fedra i ddim gweld sut mae modd esbonio penderfyniad Rhodri Glyn ar y papur dyddiol. Mae'r swm o arian sy'n cael ei drafod yn wirioneddol bitw, yng nghyd-destun cyllideb yr adran dreftadaeth. Ac er gwaethaf beth mae'r gweinidog yn ei honni, mae adroddiad Tony Bianchi, maniffesto Plaid Cymru a chytundeb Cymru'n Un i gyd yn cefnogi'r egwyddor o sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Alla i ddim dirnad pam fod gweinidog Plaid Cymru wedi penderfynnu cynddeiriogi cymaint o'i gefnogwyr craidd, a hynny er mwyn arbed £400,000 o bunoedd y flwyddyn.

1 comment:

Alwyn ap Huw said...

Mae Vaughan yn hollol gywir i drafod mater ysgolion a'r diffyg cefnogaeth i'r Byd yn yr un gwynt yng nghyd-destun dyfodol etholiadol y Blaid. Mae'r ddwy achos yn achosion sydd wedi cythruddo pobl sydd wedi cefnogi'r Blaid yn y gorffennol. Mae'r ffaith bod y ddwy achos, o bosib, yn cythruddo dwy garfan wahanol o gefnogwyr y Blaid yn wir yn gwneud eu cyd berthynas mewn termau etholiadol yn bwysicach. Mae pechu sawl garfan o etholwyr ar wahanol bynciau yn gallu achosi llawer mwy o niwed etholiadol i blaid nac ydy pechu un garfan tro ar ôl tro.

Rwyt yn anghywir wrth ddweud mai rhywbeth sydd yn effeithio ar ychydig o bobl Pen Llŷn yw polisi adrefnu ysgolion Gwynedd. Gyda'r eithriad o Ysgol y Traeth, ysgol i blant ag anghenion arbennig yn y Bermo mae pob un o ysgolion Meirionnydd yn cael eu heffeithio hefyd. Gan gynnwys ysgolion Dolgellau, lle mae'r cynllun hurtiaf un yn y polisi yn cael ei grybwyll; sef cau'r ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn creu un ysgol i blant 3-16.