18.2.08

Comics plant mawr

Blog ar gyfer trafod pethau anaddas ar gyfer Barn oedd hwn i fod. Ond rywsut, dwi wedi llwyddo i sgwenu cannoedd o eiriau ar dranc Y Byd, a fawr o ddim am ddim byd arall. Mae 'na elfen o fod eisiau cynulleidfa, mae'n siwr. O sgwenu am Y Byd, dwi wedi llwyddo i gael mensh ym mlog Vaughan Roderick - a hynny o fewn wythnos o fentro i fyd y blog. O ddilyn fy mwriad gwreiddiol, dwi'n siwr bydd diddordeb dipyn yn llai.
Ta waeth, fe gadwa i at fy ngair gwreiddiol. Un bwriad gen i oedd sgwenu pwt am bopeth celfyddydol dwi'n ei wneud - cofnodi pob record, ffilm, llyfr, drama, oriel gelf neu unrhywbeth "celfyddydol" arall sy'n mynd a rhywfaint o fy amser. Drwy wneud hyn, roeddwn i'n rhyw hanner obeithio y byswn i'n codi cywilydd ar fy hun, ac yn gwneud mwy o ymdrech i chwilio am gelfyddyd "go iawn". Hynny yw, dwi ddim ishio i neb edrych yn ol dros y blog yma mewn blwyddyn, a deud " 'Di'r boi 'ma ddim yn ffit i olygu Barn, gan mai dim ond 3 llyfr Cymraeg/llyfr llenyddol/ffilm arthouse/rhaglen S4C mae o wedi ei weld/darllen mewn blwyddyn".
Wedi deud hynny, dwi ddim yn cychwyn pethau'n rhy dda. Ers rhyw dri mis, dwi wedi darllen dwsinau o gomics, a rhyw ddau lyfr "go iawn". Damwain lwyr ydi hyn. Mi es i lawr i Gaerdydd i wyl Swn Huw Stephens, a cyn mynd i ddal y tren adra mi biciais i mewn i Forbidden Planet, gan bod ffrind i mi ffansi mynd yno.
Dwi wedi bod ac obsesiwn ysbeidiol efo super-heroes erioed, ond mae wedi bod yn cysgu ers rhai blynyddoedd, bellach. Yn y brifysgol ces i'r cyfnod mawr dwytha o ddarllen comics, pan es i drwy bob un rhifyn o Sandman Neil Gaiman ( a oedd yn eiddo i un o'r merched oedd yn rhannu ty efo fi). Mae 'na 10 mlynedd ers hynny, ac er bod gen i gasgliad go lew o hen gomics yn dal ar y silff, doeddwn i heb edrych yn iawn arnyn nhw ers oes.
Clywed enw Neil Gaiman wnaeth ail-danio fy niddordeb. Mae Sandman yn un o glasuron byd comics, yn bennaf oherwydd ei fod wedi ei ysgrifennu yn benodol ar gyfer oedolion. Mae'n dweud stori Morpheus, rhyw fath o dduw-frenin sydd yn teyrnasu dros freuddwydion meidrolion cyffredin. Dros sawl cyfrol mae'n llwyddo i wau mytholeg, crefydd a chwedl drwy eu gilydd, gan gyffwrd ar ambell i stori super-hero ar y ffordd. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd mai dyma'r comic "mawr" cyntaf i lwyddo i ddenu mwy o ferched i ddarllen na bechgyn.
DC fu'n cyhoeddi Sandman, ond erbyn hyn mae Gaiman yn gweithio i'r prif gwmni cyhoeddi arall, Marvel. Ei waith diweddaraf yw 1602 llyfr sydd yn gosod rhai o gymeriadau enwocaf Marvel - Spiderman, yr Hulk, y Fantastic Four, yr X-Men ayyb - yn ol yn yr Oes Elisabethaidd-Jacobean. Dyma'r comic y prynais i yng Nghaerdydd, ac fe lwyddodd i'm cadw fi'n hapus yr holl ffordd adref ar y tren i Fangor. Mae'r gwaith celf ychydig yn wan, ond mae'r stori yn wych, ac - yn wahanol i'r rhan fwyaf o gomics - yn llwyddo i syfrdanu'r darllenydd.
Felly ers cael fy swyno gan 1602 dwi wedi bod wrthi'n trio dod o hyd i be arall sydd wedi digwydd i fyd comics dros y ddegawd ddiwethaf. Trafferth DC a Marvel yw eu bod yn gwmniau mawr sydd yn cyhoeddi nifer helaeth o wahanol gomics. Fel rheol, mae cymeriadau'r comics hyn yn bodoli o fewn yr un byd, sydd yn golygu bod arwr un stori yn ymddangos fel is-gymeriad mewn stori arall. Dros bron i hanner canrif, mae hyn yn golygu bod gan y rhan fwyaf o brif gymeriadau stori gefndirol chwerthinllyd o gymleth. Felly dwi'n dueddol o osgoi prynnu comics y cymeriadau mawr, os nad oes awdur nodweddiadol o dda yn gweithio ar y stori. Mae'r gwaith gorau yn bodoli ar yr ymylon, fel rheol.
Fe sonia i fwy am rai o'r pethau gorau i mi ddarllen eto. Ond os oes gan rywun ddiddordeb mewn dechrau darllen comics eto, yna fe alla i awgrymu dau neu dri o gasgliadau gwych. Dwi newydd orffen darllen cyfrol gyntaf Alias. Mae'r comic yma wedi ei anelu at oedolion, ac mae'n dilyn helyntion Jessica Jones. Mae Jessica yn gyn-super hero sydd wedi diosg ei chlogyn er mwyn gweithio fel Private Eye. Mae rhai o brif gymeriadau Marvel yn ymddangos yn achlysurol, ond dim ond fel cymeriadau ymylol. Mae'r ddyfais o edrych ar fyd Marvel o'r cyrion yn gweithio'n wych, ac mae 'na hiwmor tywyll i Alias.
Yr un rhinweddau sydd i The Hood. Eto, mae'r prif gymeriad yn byw ar ymylon byd y Super-heros, ond dihiryn yn hytrach nac arwr yw'r Parker Robbins. Mae'n dod o hyd i glogyn sydd yn ei alluogi i hedfan a gwneud ei hun yn anweledig, ac mae'n ei ddefnyddio i herio'r heddlu a'r mob yn Efrog Newydd.
A'r trydydd awgrym sydd gen i yw Wanted gan Mark Miller. Mae Miller yn un o brif awduron Marvel, ond mae'r gyfrol hon wedi ei chyhoeddi gan Top Cow. Does 'na 'run arwr adnabyddus yn ymddangos yn y llyfr hwn, ond mae sawl pastiche o'r enwogion. Hanes waster di-amcan sy'n etifeddu doniau goruwchnaturiol ei ddiweddar dad yw Wanted, ac mae'n ymdrin a byd sydd yn cael ei reoli gan super-villans cyfangwbl anfoesol. Mae Wanted yn wleidyddol anghywir ac yn hynod o dreisgar, ond hefyd yn ffraeth iawn ac yn ddoniol dros ben. Mae ffilm o Wanted - gyda James McAvoy ac Angelina Jolie yn y ddwy brif ran - yn cael ei saethu ar y funud, ond dwi'n awgrymu eich bod chi'n prynnu'r comic cyn i Hollywood gael cyfle i wneud cam a'r deunydd gwreiddiol.
Digon am y tro. Dwi'n gaddo trafod Mihangel Morgan neu rywun tebyg yn fy neges nesa.

3 comments:

Nwdls said...

Dwi wedi cael fy nhemtio ar drywydd Sandman yn ddiweddar. Gesh i gymaint o flas ar The Watchmen a V for Vendetta, mod i awydd mynd nôl. Gen i awydd hefyd darllen yr un am Balesteina cyn bo hir. Ac mae Tintin yn obsesiwn gen i.

Gen i un llyfr adra brynais i yn siop FNAC Lyon (sydd ag adran bandes dessinées gwych) sef casgliad o gartwnau sydd wedi eu hysbrydoli gan ganeuon gwahanol gan Serge Gainsbourg. I bob can mae artist gwahanol wedi ceisio dal y naws. Mae'n wych, ond dwi angen bwrw iddo efo geiriadur os dwi am ddal y nuances yng ngeiriau Gainsbourg.

Ti di darllen The Three Incestuous Sisters? Ffwcin'el, na ti un od. Nid comic fel y cyfryw ond rhyw fath o stori graffeg/ darn o gelf. Lluniau anghygoel a phrin unrhyw eiriau.

Dyfrig said...

Mae DC wedi ail-gyhoeddi Sandman mewn cyfrolau arbennig Absolute Sandman - maint dwbl, wedi ei rhwymo mewn lledr gyda gwaith celf gwreiddiol a deunydd atodol. Mae nhw'n ddrud iawn i'w prynnu ym Mhrydain, ond mi ges i un oddi ar eBay America yn gymharol rhad.
Er mod i wedi mwynhau'r Sandman, mae o'n gomic gwahanol iawn i Watchmen a V for Vendetta. Dwi'n credu fod y ddau gomic yma yn gweithio oherwydd y sdwff gwleidyddol, ac oherwydd yr elfen thriller. Mae Sandman yn cynnwys mwy o mumbo-jumbo mytholegol.
Dwi'n bwriadu sgwenu pwt am Alan Moore, ond os wyt ti wedi mwynhau Watchmen, yna dwi'n siwr y byddai Wanted yn plesio.

Nwdls said...

Ie, dwi'n gweld o bori yn y siop lyfra fod Sandman yn wahanol, ond dwi'n lecio bach o lol breuddwydiol yn ogystal â digon o antur.

Ella dria i Wanted hefyd. Diolch am yr awgrym.