29.2.08

Jennie

Neithiwr bues i'n gwylio Jennie, rhaglen Cambrensis am Jennie Eirian Davies. Fe fues i'n gweithio fel cynhyrchydd/gyfarwyddwr rhaglenni ffeithiol i S4C am flynyddoedd, a dwi'n dal i gymeryd diddordeb yn y maes.
Drama-ddogfen oedd Jennie, ond roedd Arwel Ellis Owen wedi bod yn hynod ddyfeisgar gyda'r gwaith dramateiddio. Yn aml iawn, mae deunydd wedi ei "ail-greu" mewn rhaglenni dogfen yno am reswm penodol - does dim ffilm archif ar gael i ddarlunio'r stori, ac felly mae'r cyfarwyddwr yn gorfod creu ei archif ei hun. Gwendid y dechneg hon yw ei bod hi'n un ddrud i'w gwneud yn iawn, ac o'i gwneud yn wael, mae hi'n tanseilio hygrededd y rhaglen. Osgoi dilyn y trywydd yma wnaeth cynhyrchydd Jennie. Yn hytrach na cheisio ail-greu y cyfnod yn llythrennol, aeth ati i saethu cyfres o fonologau, wedi eu gosod ar set theatr. Roedd hyn yn golygu bod y gwaith wedi ei ddramateiddio yn dod a ni yn nes at hanfod cymeriad Jennie Eirian Davies, yn hytrach na dim ond llenwi tyllau gweledol yn y rhaglen. A diolch i berfformiad da iawn gan Rhian Morgan, roedd y dilyniannau hyn yn bleser i'w gwylio.
Doedd hi ddim yn rhaglen ddi-fai, fodd hynny. Rhwng y darnau wedi eu dramateiddio, roedd cyfres o gyfweliadau gyda theulu, cyfeillion a chydnabod Jennie Eirian. Roedd y rhain wedi eu saethu yn uffernol o wael, heb roi unrhyw ystyriaeth i sut yr oedden wedi eu gosod. Ac yn aml iawn, doedd y cyfweliadau ddim yn llifo i'w gilydd yn rhwydd, nac yn asio yn arbennig o dda gyda'r rhannau wedi eu dramateiddio. Roedd 'na adegau lle roedd angen cryfhau'r naratif a oedd yn gwau'r cwbl at ei gilydd.
Ond er bod 'na wallau technegol i'r rhaglen, roedd ganddi un rhinwedd bendant. Roedd hi'n ddifyr. A trafferth llawer iawn o raglenni S4C ar hyn o bryd yw eu bod nhw'n hynod o aniddorol. Mae nhw'n edrych yn slic iawn, ond mae eu cynnwys yn ddiflas. A rhowch i mi raglen ddifyr, wallus, yn hytrach na rhaglen ddiflas, slic, unrhyw ddydd.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Celwydd o raglen.

Fe ddywedodd un o'r cyfranwyr bod Y Faner cyn olygyddiaeth Jennie o dan olygyddiaeth Euros Bowen ai fod yn Faner mor ddu a'i gerddi! Geraint Bowen oedd y golygydd cyn Jennie a chynyddwyd gwerthiant y cylchgrawn yn aruthrol o dan ei olygyddiaeth ef.

Roedd Baner Geraint Bowen yn Faner gwerth ei ddarllen

Does dim dwy waith lladdwyd Y Faner gan Jennie Eirian oherwydd ei styfnigrwydd. Roedd Jennie yn golygu prif offeryn trafod y genedl ar un o'r ychydig adegau pan oedd gwahaniaeth barn fywiog rhwng caredigion yr iaith.

Roedd dadl pobl fel Jac L Williams yn un rhesymegol, ac yn un gwerth ei thrafod a dadlau yn ei chylch. Ond barn Jennie E oedd nad oedd trafod i fod, ei barn hi a barn Jac L oedd diwedd y ddadl doedd neb yn cael y cyfle i ddweud yn wahanol! Gwrthod llais yn erbyn ei barn haearnaidd hi lladdodd y Faner. Pe bai unrhyw un arall wrth y llyw, un a oedd yn derbyn mae trafodaeth deg "rhydd i bob barn ei llais" bydda'r Faner yn bodoli heddiw gyda miloedd yn ei phrynu.

Lladdwyd y Faner gan mae barn Jenni Eirian oedd yr unig farn dderbyniol i'w cyhoeddi ac roedd ei barn hi yn groes i farn mwyafrif y Cymry!

Dyfrig said...

Er tegwch, mi oedd y rhaglen yn cydnabod yr agwedd hon o gymeriad Jennie Eirian. Doedden nhw ddim yn mynd cweit gyn belled gyda'u dadansoddiad, ond roedd 'na fwy nac un yn cydnabod bod Jennie wedi bod yn olygydd anodd i weithio iddi - un o'r darnau gorau gen i oedd gweld Rhian Morgan yn darllen llythyr pigog J Gwyn Griffiths, yn gwrthod gwahoddiad i gyfrannu at y papur oherwydd ymyrraeth y golygydd.