5.2.08

Cymorthdal

Roeddwn i fod i ymddangos ar Good Morning Wales y bore ma, i drafod y cymorthdal mae Barn yn ei gael gan y Cyngor Llyfrau. Ond gan i fy mab gael ei eni tua'r amser yr oeddwn i fod ar yr awyr, wnes i ddim cyrraedd y sdiwdio.

Beth bynnag, dwi wedi bod yn gwneud dipyn o ymchwil. Roedd Radio Wales am fy holi fi ynglyn a'r ffaith bod pob rhifyn o Barn sy'n cael ei gyhoeddi yn derbyn £9 o gymorthdal gan y Cynulliad - ffigwr a ddaeth i'r amlwg yn adroddiad diweddar Tony Bianchi ar y wasg Gymraeg. Mae 'na sawl un wedi syfrdanu gyda'r ffigwr yma, gan gynnwys y gweinidog treftadaeth ei hun, yn ol y son.

Problem Barn yw ein bod ni wedi cael ein cynnwys mewn arolwg o'r wasg brintiedig Gymraeg, tra bo cyfnodolion tebyg eraill - Taliesyn neu Barddas, er engrhaifft - wedi cael eu heithrio, er mai'r un grant sydd yn ein ariannu ni i gyd. Chwarae teg i Tony Bianchi, mae'n cydnabod yn ei adroddiad bod hyn yn gangymeriad.

Yn yr adroddiad, mae ein ffigwr cymorthdal y rhifyn ni yn cael ei osod ochr yn ochr a ffigyrau'r Cymro a Golwg, sydd yn isel iawn (ceiniogau y rhifyn, yn hytrach na phunnoedd). Ond petai Barn wedi cael ei gymharu gyda nifer o gyfnodolion eraill, fe fyddai'n edrych tipyn yn well.

Cymerwch y ffigyrrau ar gyfer cyfnodolion Saesneg o Gymru. Y Cyngor Llyfrau sy'n ariannu'r rhain hefyd, trwy'r un math o grant a mae Barn yn ei dderbyn. Dyw'r Cyngor ddim yn cyhoeddi ffigyrrau gwerthiant ar gyfer pob cylchgrawn, ond mae'n nodi 650 yw cyfartaledd gwerthiant cylchgronnau lleyddol Saesneg. Mae'r cyngor yn cyhoeddi manylio grantiau'r gwahanol gylchgronnau, fodd bynnag, ac fe allwn ni amcangyfrif beth yw'r cymorthdal/rhifyn drwy ddefnyddio'r cyfartaledd gwerthiant o 650.

Cymerwch y New Welsh Review. Mae'n derbyn £54,440 y flwyddyn i gynhyrchu 4 rhifyn. Os yw pob rhifyn yn gwerthu 650 o gopiau, yna mae pob copi yn derbyn £20.93 o gymorthdal gan y Cyngor Llyfrau.

Neu beth am Planet? Mae planet yn cael £90,170 y flwyddyn i gynhyrchu 6 rhifyn. Eto, os defnyddiwn ni gyfartaledd gwerthiant y Cyngor Llyfrau, mae pob copi o Planet yn derbyn £23.12 gan y Cyngor Llyfrau.

Efallai bod y ffigwr o 650 yn anghywir, a bod y naill neu'r llall o'r cylchgronnau hyn yn gwerthu llawer iawn mwy. Ond os yw fy mathamateg i'n gywir, yna mae'n gwneud i Barn edrych yn dipyn o fargen. Sgwn i os y bydd golygyddion y ddau gyfnodolyn yma yn ymddangos at Good Morning Wales dros y dyddiau nesaf, i amddiffyn lefel eu cymorthdal hwy?

1 comment:

Rhys Wynne said...

Mae'n biti mae'r unig adeg mae rhaglenni Saesneg y BBC yn rhoi unrhyw sylw i faterion Cymraeg yw i drafod y grant mae'n dderbyn. Diddordol iawn fyddai gweld os yw cyhoeddiadau Saesneg yn cael eu crybwyll. Oes gwirioned i stori bod Kim Howells unwaith wedi dweud bod hi'n warthus bod cylchgronnau Cymraeg (a Barn yn benodol dybiwn i) yn cael cymaint o gymhorthdal o ystyried cynlleied sy'n siarad Cymraeg, ond i rhywun weydn bwyntio alllan iddo bod gwerthiant cylchgronnau Cymreig yn GYmraeg yn gwerthu llawer mwy na rhai Cymreig yn y Saesneg.

Mae £9 y copi dal yn fargen!