6.2.08

Y Byd ar Bedwar, eto

Dwi'n adnabod Marc Jones rhyw ychydig, gan ei fod wedi cyfrannu fel newyddiadurwr i Barn, ac ein bod ni wedi bod yn trafod amryw bethau pan oedd o'n olygydd Golwg. Wedi iddo weld yr hyn yr ysgrifenais i amdano fo, mae wedi cysylltu a mi i ddweud ei fod yn teimlo mod i'n bod yn anheg.
Dwi ddim yn gweld bai ar Marc am ddweud yr hyn a ddywedodd o ar y Byd ar Bedwar neithiwr. Fe fu'n cymeryd rhan mewn trafodaeth banel ar y wasg Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni, ac fe wnaeth lawer o'r un sylwadau am Y Byd ac y gwnaeth ar y rhaglen - a hynny ymhell cyn iddo dderbyn swydd gyda Phlaid Cymru.
Gweld bai ar Y Byd ar Bedwar oeddwn i, a nid ar Marc yn bersonnol. Gan fod Marc yn gweithio i Blaid Cymru, roedd ganddyn nhw gyfrifoldeb i hysbysu'r gwyliwr o'r ffaith yma. Ar y lefel symlaf, roedd hi'n ffeithiol anghywir disgrifio Marc fel newyddiadurwr, bellach, gan ei fod yn cael ei gyflogi fel swyddog y wasg. Ond gan mai Plaid Cymru yw ei gyflogwr, a Phlaid Cymru sydd yn dal y weinidogaeth Dreftadaeth, roedd hi'n bwysicach byth bod y gwyliwr yn cael gwybod y ffeithiau i gyd. Roedd Marc yn siarad yn gwbl bersonol ar y rhaglen, yn hytrach na fel aelod o staff Plaid Cymru. Serch hynny, roedd gan Y Byd ar Bedwar ddyletswydd proffesiynnol i adael i ni wybod am ei gefndir proffesiynnol, er mwyn i ni allu penderfynnu ein hunain a oedd ei sylwadau yn ddi-duedd neu beidio.
Beth bynnag, dwi ishio ymddiheuro i Marc os yr ydw i wedi gwneud cam ag o, a gobeithio ei fod - fel cyn olygydd - yn deallt pam bod fy meirniadaeth i o'r Byd ar Bedwar yn un gwbl ddilys.

3 comments:

Rhys Llwyd said...

Ti'n iawn, eto. Newyddiaduraeth wael a diog a gwallus ar ran ITV oedd y broblem. Dwi'n meddwl mod i'n iawn i ddweud eu bod nhw wedi chwarae tric gwael yn cael Aled Eurig i siarad hefyd, tro diwethaf i mi ddod ar draws Aled oedd yn 'steddfod 2006 a bryd hynny roedd en 'special advisor' i Dafydd Ellis-Thomas, ydy e'n parhau i ddal y swydd honno? Unwaith eto, fel Marc, mae ganddo brofiad yn y maes newyddiadurol ond bellach mae ganddo het wleidyddol mlaen, ni wnaeth y Byd ar Bedwar nodi hynny chwaith.

Dyfrig said...

Dwi'n credu bod Aled Eurig yn gweithio yn rhan amser i swyddfa Llywydd y Cynulliad, yn hytrach nac i Dafydd Elis-Thomas yr AC. Y tro dwytha i mi glywed, roedd o'n dal ar lyfrau'r BBC hefyd, felly roedd y gorfforaeth wedi mynnu bod ei swydd gyda Dafydd El yn un hollol an-wleidyddol.

Rhys Llwyd said...

ha! the plot thickens