Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur iawn i mi, ond fedrwn i ddim anwybyddu'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y Cynulliad. Beth bynnag fo'ch barn chi gynllun busnes Dyddiol Cyf, dwi'n credu bod y cwmni wedi cael ei drin yn siabi iawn gan Rhodri Glyn Thomas.
Does dim amheuaeth bod 'na wendidau sylfaenol yng nghynllun busnes Dyddiol. Roedden nhw'n or-uchelgeisiol wrth amcangyfrif nifer y darllenwyr, ac yn gofyn am ormod o adnoddau i gynnal y fenter. Fyddai yr un gwleidydd wedi medru cyfiawnhau rhoi'r arian yr oedden nhw'n ofyn amdano. Roedd adroddiad Dr Tony Bianchi yn dweud hyn yn blwmp ac yn blaen, ac yn cynghori Dyddiol Cyf i ail-ystyried ei cynllun busnes. Yr awgrym cwbl resymol oedd ei bod hi'n amhosib cefnogi'r cynllun ari ei ffurf presennol, ond y byddai modd cefnogi cynllun diwygiedig. Cyngor doeth a rhesymol.
Y broblem gyda chyhoeddiad heddiw yw fod y ffigwr sydd yn cael ei gynnig gan y Gweinidog Treftadaeth cymaint yn is na'r hyn yr oedd Dyddiol yn gofyn amdano fel ei bod hi'n amhosib iddyn nhw wneud unrhyw newidiadau ymarferol i'w cynllun a fyddai'n dod o hyd i ddigon o doriadau. Does dim lle i gyfaddawdu ar weledigaeth y cwmni. Roedd Dyddiol wedi amacangyfrif y byddai cyhoeddi papur dyddiol Cymraeg yn cosio £1.2 miliwn y flwyddyn, gyda £1 miliwn yn dod o goffrau'r Cynulliad - drwy gyfuniad o grant a gwarant o incwm hysbysebu. Cyhoeddodd Rhodri Glyn Thomas heddiw bod £200,000 ychwanegol ar gael i ariannu'r wasg Gymraeg, gyda phob cyhoeddiad - boed yn bapur dyddiol neu beidio - yn rhydd i geisio am ran o'r arian ychwanegol.
Mae'r ffigwr hwn yn rhoi'r farwol i'r syniad o bapur dyddiol Cymraeg. I'w roi yn ei gyd-destun, mae hi'n costio £100,000 y flwyddyn i gynhyrchu 10 rhifyn o Barn. Fi yw'r unig aelod o staff llawn amser a dwi'n gwneud rhan helaeth o'r gwaith gosod, a tynnu lluniau fy hun, yn ogystal a'r golygu. Mae nifer o bobl eraill yn rhoi ei hamser am ddim neu nesaf peth i ddim, ac mae'r arian yr ydym ni'n ei dalu i gyfranwyr yn gymharol isel. Ac ar ben popeth, du a gwyn yw'r tudalennau mewnol i gyd. Dyna pam mor bell y mae £100,000 yn mynd wrth gyhoeddi, felly fe allwch chi ddychmygu pam mor anymarferol fyddai cynhyrchu papur dyddiol ar £200,000. Does 'na yr un cwmni ar wyneb daear a allai gynhyrchu papur dyddiol Cymraeg am y swm yma.
Nawr fe allwch chi ddadlau nad oes ots. Wedi'r cyfan, mae'r wasg Gymraeg yn gyffredinol wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol hael. Beth yw'r ots os ydym ni'n gwario'r arian yma ar wella Golwg, Y Cymro a Barn, ac yn anghofio am Y Byd? Efallai ei bod hi'n ddoethach cryfhau y ddarpariaeth bresennol, er mwyn gwneud papur dyddiol yn fenter mwy realistic mewn blynyddoedd i ddod.
Safbwynt digon teg a rhesymol. Problem y llywodraeth yw ei bod wedi gwneud ymrwymiad pendant i greu papur dyddiol Cymraeg yn nghytundeb Cymru'n Un. Roedd llawer iawn o genedlaetholwyr yn anfodlon iawn gyda'r syniad bod Plaid Cymru am fynd i glymblaid gyda Llafur, ond fe benderfynon nhw gefnogi'r cynllun oherwydd ei fod yn gwarantu y bydden ni'n gweld sefydlu pethau megis papur dyddiol Cymraeg a Choleg Ffederal Cymraeg. Dwi'n rhagweld y bydd 'na lawer iawn o bobl yn teimlo bod y llywodraeth wedi torri addewid heddiw drwy fethu a sicrhau bod cyllideb ddigonol yn bodoli i ariannu'r ymrwymiad penodol hwn. A gan mai AC Plaid Cymru yw'r gweinidog treftadaeth, yna fe fydd 'na lawer o bobl yn beidio Plaid Cymru yn benodol am y siom yma.
Mae Y Byd wedi derbyn cefnogaeth dda gan y dosbarth canol traddodiadol Cymraeg - sef yr union bobl sydd yn pleidleisio yn ddeddfol i Blaid Cymru. Sgwn i beth fydd ei ymateb nhw i'r hyn mae Rhodri Glyn Thomas wedi ei wneud? Yw hyn yn ddigon i gael dylanwad ar bleidlais Plaid Cymru?
5.2.08
Diwedd Y Byd
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment