22.2.08

Rhag dy gywilydd, Bethan Jenkins

Roedd 'na gyfnod pan oedd Bethan Jenkins AC yn blogio yn ddwy-ieithog. Ond o ddarllen ei negeseuon diweddaraf, mae'n ymddangos bod sgwenu yn y Gymraeg yn ormod o drafferth i'r genedlaetholwraig fawr. Felly fe fydd yn rhaid i mi ei dyfynnu hi yn y Saesneg gwreiddiol.

"On another subject- Y Byd- I understand that there will be an interesting piece on this on tonight's Dragon's Eye. I will try and reserve judgment until then. I tend to agree with Adam Price on this one, however. Plaid in Government has almost doubled investment in the Welsh medium press, and the possibility of developing a new Welsh Language daily is still open for debate in that the Government is currently tendering for contracts. I believe that a newspaper on the web is the best way forward at thist stage, but I know that others disagree with me.

I do despair, however of some figures in the Nationalist movement purposfully using their positions to create trouble on this issue. Lets put our heads together and get a successful outcome for the future of the Welsh Language Press instead of making public statements for the sake of making a point."

Dwi'n teimlo fy ngwaed yn berwi wrth ddarllen y sylw hwn. Pwy yw'r "some figures in the Nationalist movement" sydd yn "purposefully using their positions to cause trouble"? Y bobl a arwyddodd y llythyr agored i Rhodri Glyn Thomas? Gadewch i ni edrych ar y rhestr

Anna Brychan
Llinos a Cynog Dafis
Hywel Teifi Edwards
Meredydd Evans
Heini Gruffudd
Emyr Humphreys
Richard Wyn Jones
Gareth Miles
Jan Morris
Wynford Elis Owen
John a Luned Rowlands

Dyma rai o gewri ein cenedl ni. Pobl sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywyd Cymru; pobl sydd wedi trawsnewid y modd yr ydym ni'n edrych ar ein hunain, ac y mae'r byd yn edrych arnom ni. Bethan, ti'n gwneud cam a nhw drwy honni eu bod yn datgan eu gwrthwynebiad er mwyn "creu trwbl". Y mae'r penderfyniad ynglyn a'r papur dyddiol yn un sydd wedi cynddeiriogi a thristau llawer iawn ohonom ni sydd a chysylltiadau dwfn a'r mudiad cenedlaethol. Paid a bychannu hynnu.

2 comments:

Cer i Grafu said...

Ma' Bethan yn gweid:

'I do despair, however of some figures in the Nationalist movement purposfully (sic) using their positions to create trouble on this issue'

Cafodd y drafferth ei chreu gan gyhoeddiad hollol gywilyddus Rhodri Glyn Thomas a'r ymdrech i gyfiawnhau'r penderfyniad gan Bethan, Adam Price a'r Arglwydd Elis-Thomas.

Pwy, myn yffarch i, sy'n byw yng ngwlad y cwcw?

Hogyn o Rachub said...

Cytuno llwyr Dyfrig. Rhag ei chywilydd hi.

Mae'n ymddangos bod aelodau etholedig y Blaid yn gwneud popeth y gallant i gynddeiriogi aelodau cyffredin y Blaid a chenedlaetholwyr yn gyffredinol!