28.2.08

Wel wir....

Yn ol blog Vaughan Roderick mae Peter Hain wedi bod yn galw am leihau dibyniaeth yr economi Gymreig ar y sector gyhoeddus. Dyna'n union y bues i'n ei ddeud yn fy ngholofn olygyddol ddiwethaf, yn Barn mis Chwefror. Sgwn i os yw David Dickinson San Steffan wedi dechrau troi at y wasg Gymraeg am arweiniad?

(Gyda llaw, diolch i bawb sydd wedi bod yn darllen y blog yma hyd yn hyn. Dwi wedi synnu gyda'r ymateb, ac yn wirioneddol werthfawrogi'r sylwadau sydd wedi eu gadael. Ond gai ofyn cwestiwn? Faint ohonoch chi sydd yn darllen Barn bob mis? Mae 'na rifyn newydd ar ei ffordd ddiwedd wythnos nesa - beth am ddangos i Rhodri Glyn Thomas bod defnyddwyr y we hefyd yn darllen y wasg draddodiadol drwy brynnu copi?)

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Yn anffodus nid ydwyf yn debygol o brynu'r rhifyn cyfredol o Barn, na Llafar Gwlad, na'r Faner Newydd, na'r Tyst, nac unrhyw gyfnodolyn Cymraeg arall, am y rheswm syml nad ydynt ar gael yn y siop yr wyf yn ei defnyddio mwyaf, sef Tesco Cyffordd Llandudno.

I brynu copi o dy gylchgrawn mae'n rhaid imi wneud taith 30 milltir yn unswydd er mwyn ei chaffael, rwy'n annhebygol o wneud hynny.

Rwy'n ddarllenydd brwd, byddaf yn prynu o leiaf un llyfr yr wythnos - yng nghyfleustra Tesco neu Asda - llyfrau Saesneg, wrth gwrs, gan nad oes llyfrau Cymraeg ar gael.

Mae'r syniad o gefnogi siopau bach yn neis, mae siopau llyfrau Cymraeg megis Bys a Bawd, Siop y Morfa ac ati wedi cyfrannu at barhad yr iaith, ond mae'n rhaid derbyn bod dyddiau'r siop fach wedi dod i ben.

Rwy'n Gymro Cymraeg twymgalon sydd yn hoff o ddarllen cynnyrch Cymraeg os yw ar gael, ond pam ff*** bod rhaid imi wneud taith allan o'm ffordd i fynnu deunydd darllen Cymraeg? Pam nad ydyw ar gael yn y siopau yr wyf yn eu defnyddio yng Nghymru?

Ac os yw creadur gweddol frwd dros y pethe, fel fi, yn teimlo'n rhwystredig am argaeledd pethau darllen Cymraeg. Pa obaith sydd i ddenu Cymry Cymraeg eraill i brynu deunydd ddarllen yr iaith?

Dyfrig said...

Digon gwir. Mae Golwg yn cael ei werthu yn Tesco Bangor, ynghyd a sawl cyhoeddiad Cymraeg arall - ond dim Barn, am ryw reswm.

Wrth gwrs, mae modd prynnu tanydgrifiad i'r cylchgrawn, fel y gwna'r rhan fwyaf o'n darllenwyr ni. Fe fyddai'r cylchgrawn yn cael ei bostio trwy'r drws bob mis, heb angen teithio i siop Gymraeg, na archfarchnad. Dwi'n credu bod y manylion ar wefan swyddogol y cylchgrawn.