7.2.08

Golwg

Dwi newydd dderbyn copi wythnos yma o Golwg, a dwi'n falch o weld bod y golofn olygyddol yn dweud yr hyn dwi wedi bod yn ei ddweud - sef bod hi'n amhosib creu papur dyddiol am £200,000 y flwyddyn. Mae'r golofn yn mynd ymlaen i ddweud y bydd Golwg Cyf yn ceisio am beth o'r gronfa newydd, a dwi'n cymeryd y bydden nhw'n gobeithio defnyddio'r pres i ddatblygu'r gwasanaeth ar-lein newydd.
Er mod i'n siomedig ac yn flin gyda agwedd y llywodraeth ar y papur dyddiol, dwi yn cydnabod bod £200,000 yn fuddsoddiad sylweddol a bod hyn yn newyddion da i bawb arall sy'n gweithio yn y maes. A dwi'n dymuno pob lwc i Golwg yn ei menter newydd. Mae gen i barch anferthol at Dylan Iorwerth fel newyddiadurwr, rheolwr-gyfarwyddwr a dyn busnes. Gobeithio bydd y wefan newydd yn llwyddiant, ac yn mynd rhywfaint o'r ffordd at lenwi'r bwlch yn y ddarpariaeth bresennol.

4 comments:

Dafydd Tomos said...

Dwi ddim yn siwr am safon newyddiadurol Golwg, ond yn amlwg mae ganddynt ddawn i greu storiau du-a-gwyn tabloidaidd sy'n gallu creu trafodaeth.

Os ydyn nhw am ddatblygu gwefan, mae'n sicr rhaid iddyn nhw feddwl am y peth yn fwy na wnaethon nhw gyda'r wefan bresennol, sydd yn eitha gwael, nid yn unig o ran ei ddiwyg ond o ran strategaeth i greu gwefan llwyddiannus.

Mae angen ffynhonnell newyddion dyddiol i wrthwynebu ymerodraeth BBC, ond o leia mae ganddyn nhw brofiad o greu gwefannau da.

Ifan Morgan Jones said...

"Dwi ddim yn siwr am safon newyddiadurol Golwg..."

Hoi! :P

Dafydd Tomos said...

Dyw safon y newyddiaduraeth ddim bob amser yn adlewyrchu talent sgrifennu y staff wrth gwrs. Mae pethau bach fel amser ac arian yn helpu.

Dwi wedi cael profiad o weld y broses newyddiadurol o safbwynt cyfwelai gyda Golwg a phapurau/cylchgronnau cyfoethocach (saesneg) a mae yna fyd o wahaniaeth. Felly os oes arian ychwanegol yn dod i Golwg, gobeithio y bydd y rhan helaeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ohebiaeth.

Dyfrig said...

Dwi'n credu bod safon newyddiadurol Golwg yn berffaith dderbynniol. Wedi'r cyfan, mae'n gylchgrawn sydd wedi ei anelu at y darllenydd cyffredin, ac mae'r erthyglau yn dueddol o fod yn eithaf cryno er mwyn ei cadw nhw'n hygyrch. Mae Barn yn bodoli os wyt ti'n chwilio am ddarnau hirach, mwy dadansoddiadol (a mae tipyn llai o bobl yn darllen Barn). Problem arddull Golwg yw bod yr angen i grynhoi yn gallu arwain - yn achlysurol - at ymdriniaeth sydd yn ochri ar yr arwynebol.
Er hynny, dwi'n credu bod gweledigaeth olygyddol Golwg yn haeddu canmoliaeth anferth. Yn wahanol i'r BBC a'r papurau Eingl-Gymreig, mae nhw'n deallt beth yw diddordebau y Cymry Cymraeg, ac mae gogwydd y straeon yn adlewyrchu'r adnabyddiaeth yma o'u cynulleidfa.
Pan mae stori fawr Gymreig yn torri, mae gen i ddiddordeb gwirioneddol mewn gweld sut mae Golwg yn ymdrin a'r pwnc. Dwi'n troi at BBC Cymru gan wybod mai cyfieithiad blinedig o stori BBC Wales fydd yn cael ei ddarlledu. Mae 'na eithriadau o fewn y BBC - Taro'r Post, Dau o'r Bae, Gwilym Owen - ond dyw'r gwasanaeth newyddion y mae'r BBC yn ei gynnig ddim yn cymharu gyda'r hyn mae llond dwrn o staff yn Llambed yn llwyddo i'w wneud.

(A cyn i neb fy nghyhuddo o beidio a dtagan diddordeb - fe oedd fy nghariad i'n arfer gweithio i Golwg, rhyw flwyddyn neu ddwy yn ol)